AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT
Mae Little Bird Films Ltd. yn cydnabod bod amrywiaeth a chynhwysiant yn helpu i gefnogi creadigrwydd ac arloesedd: maen nhw’n elfennau hanfodol i lwyddiant cwmni teledu. Rydyn ni wedi ymrwymo i annog amrywiaeth a chynhwysiant a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu yn ein cwmni. Rydyn ni eisiau i’n gweithlu fod yn wirioneddol gynrychioliadol o
bob rhan o gymdeithas. Rydyn ni eisiau i'n cwmni fod yn un lle mae pob gweithiwr a gweithiwr llawrydd yn teimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu rhoi o'u gorau.
I'r perwyl hwnnw, mae'r polisi hwn yn cynnig fframwaith o gydraddoldeb a thegwch i bawb a gyflogwn. Mae’n mynegi ein hymrwymiad i beidio â gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol (gan gynnwys partneriaethau sifil), hil, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, tarddiad cenedlaethol, crefydd neu gred, neu
gyfeiriadedd rhywiol.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i staff cyflogedig a llawrydd ac i bobl sy'n gweithio ar y sgrin ac oddi ar y sgrin.
Bydd pob gweithiwr llawrydd a gweithiwr, boed yn rhan-amser, llawn amser neu dros dro, yn cael eu trin yn deg a chyda pharch. Bydd dethol ar gyfer cyflogaeth, fel aelod o staff neu’n llawrydd, yn seiliedig ar ddawn a gallu. Bydd mynediad i gyfleoedd am ddyrchafiad, hyfforddiant neu unrhyw fudd arall hefyd yn seiliedig ar ddawn a gallu. Bydd pob gweithiwr
yn cael eu hannog i ddatblygu eu potensial llawn a bydd talentau ac adnoddau’r gweithlu’n
cael eu defnyddio’n llawn i wneud y mwyaf o greadigrwydd a llwyddiant y cwmni.
Byddwn yn:
- Bwrw ati i geisio cynyddu nifer y bobl rydym yn gweithio gyda nhw sy'n dod o
grwpiau/cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y diwydiant teledu drwyddi draw,
neu swyddi penodol yn y diwydiant.
- Adolygu ein holl arferion a gweithdrefnau cyflogi/llogi ffurfiol ac anffurfiol i sicrhau
eu bod yn deg ac yn ein helpu i ddod o hyd i’r talent gorau.
- Adnabod a manteisio ar gyfleoedd i gynyddu’r amrywiaeth mewn penderfyniadau
castio.
- Sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud i alluogi pobl anabl i weithio yn
ein cwmni neu gyda’n cwmni, ar y sgrin ac oddi ar y sgrin.
- Bwrw ati i geisio cynyddu amrywiaeth ein rhwydweithiau talent.
- Creu amgylchedd lle mae gwahaniaethau unigolion a chyfraniadau pob aelod o’n staff a gweithwyr llawrydd yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi.
- Sicrhau bod pob gweithiwr a gweithiwr llawrydd yn gallu gweithio mewn amgylchedd sy'n hybu urddas a pharch at bawb. Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o fygythiad, bwlio nac aflonyddu.
- Sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi, datblygu a dilyniant ar gael i bob aelod o staff.
Cefnogir y polisi hwn yn llawn gan uwch reolwyr Little Bird Films Ltd.